Microsoft Office Specialist Excel and PowerPoint training and official certification now available to students, for free.
|
Library & Information Services are pleased to offer Microsoft Office Specialist certification and comprehensive training courses in Excel and PowerPoint, for free, to Cardiff Met students.
Microsoft Office Specialist (MOS) is a globally renowned Microsoft qualification programme that certifies expertise in Office software. At Cardiff Met we have combined MOS qualifications with bespoke training to offer high quality, relevant training that enables you to prove your digital skills to employers.
The Autumn Term 2018 schedule sees more sessions and training places available than ever before, with multiple sessions in Fresher’s Week and the beginning of term.
Visit the IT Training website for the schedule and to sign-up, or read on for more details.
|
|
Microsoft Office Specialist Excel learn how to analyse, manipulate and present data effectively in Excel. The course will give you the skills you need to master the principle features of Excel. |
|
|
|
Not convinced yet? Here are some comments from students who have completed a MOS certification:
“the content is highly applicable to my life as a student ranging from organising my finances and producing charts [to] creating a table with all the articles I have read or want to read”
“It was all great, I appreciate the flexibility since it was easier to manage with other uni stuff”
“I learned so many useful things - I always knew Excel was a powerful tool but being self-taught only knew the basics - I have used much of what I learned in my job” |
|
The courses begin with an induction and Key Concept session. The sessions explain the resources available – comprehensive e-learning courses, practice projects, Microsoft textbooks and GMetrix practice software – and will set you off on your MOS journey by exploring key concepts: formulae and functions (Excel) and effective slide design (PowerPoint).
After the initial session, the remainder of the course will be delivered through e-learning, practice projects and additional Key Concept sessions. Attendance at Key Concept sessions is optional, but recommended, as they explore principle features in detail and are an opportunity to get help from the course team (or we can be reached anytime through email or the MOS Yammer group).
The course culminates with the Microsoft Office Specialist exam. There are multiple exam sessions scheduled for the last two weeks of term.
Trainees will be well prepared for the exam, as in addition to the course material all trainees will be issued with a licence for GMetrix practice software, which provides an accurate simulation of the MOS exam.
Microsoft Office Specialist has proven benefits in terms of productivity, confidence and proficiency with Office software, but most importantly it enables you to stand-out to employers. Employers see many CVs that include "I am proficient in Office software", yours will have an extra edge as it could read "I am proficient in Office, as exemplified by gaining a Microsoft Office Specialist qualification".
Upon passing a MOS exam you will receive:
- a physical and digital certificate
- a digital badge that can be used to share (e.g. on LinkedIn) and verify your achievement with employers
- Microsoft Office Specialist is a verified Higher Education Achievement Report (replacement for academic transcript) activity that will appear in section 6.1 of the report; another means of proving to employers you have the skills you claim.
For more information and to sign-up, visit the IT Training website: ittraining.cardiffmet.ac.uk |
|
|
Mae Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn falch o gynnig ardystiad Microsoft Office Specialist a chyrsiau hyfforddiant cynhwysfawr mewn Excel a PowerPoint, am ddim, i fyfyrwyr Met Caerdydd.
Mae Microsoft Office Specialist (MOS) yn rhaglen gymhwyster Microsoft sy'n enwog yn fyd-eang sy'n ardystio arbenigedd ym meddalwedd Office. Ym Met Caerdydd, rydym wedi cyfuno cymwysterau MOS gyda hyfforddiant pwrpasol i gynnig hyfforddiant perthnasol o ansawdd uchel sy'n eich galluogi i brofi eich sgiliau digidol i gyflogwyr.
Mae amserlen Tymor yr Hydref 2018 yn gweld mwy o sesiynau a lleoedd hyfforddiant ar gael nag erioed o'r blaen, gyda sesiynau lluosog yn Wythnos y Glas a dechrau'r tymor. Defnyddiwch dudalennau'r disgrifiad cwrs isod i ddarganfod mwy ac i gofrestru ar gyfer sesiwn.
|
|
Microsoft Office Specialist Excel dysgwch sut i ddadansoddi, trin a chyflwyno data'n effeithiol yn Excel. Bydd y cwrs yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feistroli prif nodweddion Excel. |
|
|
|
Ddim yn argyhoeddedig eto? Dyma rai sylwadau gan fyfyrwyr sydd wedi cwblhau ardystiad MOS:
"Mae'r cynnwys yn hynod berthnasol i fy mywyd fel myfyriwr sy'n amrywio o drefnu fy nghyllid a chynhyrchu siartiau [i] greu tabl gyda'r holl erthyglau yr wyf wedi eu darllen neu eisiau eu darllen"
"Roedd popeth yn wych, rwy'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd gan ei fod yn haws ei reoli gyda’r stwff prifysgol arall"
"Dysgais gymaint o bethau defnyddiol - roeddwn bob amser yn gwybod bod Excel yn arf pwerus ond fel un a ddysgodd fy hun sut i’w ddefnyddio, roeddwn yn gwybod y pethau sylfaenol yn unig - rwyf wedi defnyddio llawer o'r hyn a ddysgais yn fy swydd” |
|
Mae'r cyrsiau'n dechrau gyda sesiwn ymsefydlu a’r Cysyniad Allweddol. Mae'r sesiynau'n egluro'r adnoddau sydd ar gael - cyrsiau e-ddysgu cynhwysfawr, prosiectau ymarfer, llyfrau testun Microsoft a meddalwedd ymarfer GMetrix - a byddant yn eich cychwyn ar eich taith MOS trwy archwilio cysyniadau allweddol: fformiwlâu a swyddogaethau (Excel) a dylunio sleidiau effeithiol (PowerPoint).
Ar ôl y sesiwn gychwynnol, cyflwynir gweddill y cwrs trwy e-ddysgu, prosiectau ymarfer a sesiynau Cysyniad Allweddol ychwanegol. Mae mynychu sesiynau Cysyniad Allweddol yn ddewisol, ond fe’u hargymhellir, gan eu bod yn edrych ar nodweddion egwyddor yn fanwl ac yn gyfle i gael help gan dîm y cwrs (neu gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg trwy e-bost neu grŵp MOS Yammer).
Mae'r cwrs yn dod i ben gydag arholiad Microsoft Office Specialist. Trefnwyd sesiynau arholiad lluosog ar gyfer pythefnos olaf y tymor.
Bydd hyfforddeion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer yr arholiad; yn ogystal â deunydd cwrs, bydd pob hyfforddai yn cael trwydded ar gyfer meddalwedd ymarfer GMetrix, sy'n darparu efelychiad cywir o'r arholiad MOS.
Mae gan Microsoft Office Specialist fanteision profedig o ran cynhyrchedd, hyder a hyfedredd gyda meddalwedd Office, ond yn bwysicaf oll mae'n eich galluogi i sefyll allan i gyflogwyr. Mae cyflogwyr yn gweld llawer o CVs sy'n cynnwys "Rwyf yn hyfedr mewn meddalwedd Office", bydd gan eich un chi ymyl ychwanegol gan y gallai ddarllen "Rwyf yn hyfedr yn Office, fel y nodir trwy ennill cymhwyster Microsoft Office Specialist".
Ar ôl pasio arholiad MOS byddwch yn derbyn:
- tystysgrif ffisegol a digidol
- bathodyn digidol y gellir ei ddefnyddio i rannu (e.e. ar LinkedIn) a gwirio'ch cyflawniad gyda chyflogwyr
- Mae MOS yn weithgarwch Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (amnewidiad ar gyfer trawsgrifiad academaidd) a fydd yn ymddangos yn adran 6.1 yr adroddiad; ffordd arall o brofi i gyflogwyr bod gennych y sgiliau rydych chi'n eu hawlio.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i’r wefan Hyfforddiant TG: ittraining.cardiffmet.ac.uk |
|
|