Mae amserlen hyfforddiant TG tymor yr hydref yn cynnig cyfleoedd helaeth i ddatblygu a phrofi eich sgiliau digidol. Uchafbwyntiau:
- Cyfres newydd o gyrsiau sy'n arwain at fathodynnau digidol Met Caerdydd: dwy lefel o hyfforddiant Photoshop, cwrs ar lunio arolygon ar-lein gan ddefnyddio Qualtrics a chwrs sy'n datblygu'ch sgiliau cyfathrebu digidol drwy ddefnyddio Microsoft Teams ac Office 365. Mae'r hyfforddiant yn datblygu'ch sgiliau; mae bathodynnau digidol Met Caerdydd yn dilysu'r sgiliau hynny ac yn eu rhannu â chyflogwyr.
- Cyfres gyffrous o weithdai ar sgiliau digidol a gynigir gan Facebook a'i bartner, BuzzStart Academy. Mae tair sesiwn gweithdy yn trafod materion megis Arloesi, Marchnata Cymdeithasol a Deallusrwydd Artiffisial. Nod y gyfres yw adeiladu'ch hyder digidol a hybu'ch rhagolygon gyrfa. Byddwch yn cael tystysgrif gan Facebook ar ôl cwblhau gweithdy yn llwyddiannus.
- Mae lleoedd ychwanegol ar gael ar ein cyrsiau Microsoft Office Specialist, Excel, PowerPoint ac Outlook ac ar y cwrs Hanfodion Dylunio Gwefannau sy'n rhan o'r rhaglen Microsoft Technology Associate. O ganlyniad i'r galw uchel am leoedd, mae nifer o sesiynau ychwanegol wedi'u trefnu yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.
- Caiff ein cyfres o gyrsiau ar reoli dogfennau ei chynnig eto, gan eich helpu i reoli eich dogfennau gan ddefnyddio OneDrive, a dogfennau eich tîm gan ddefnyddio SharePoint. Mae cyrsiau SharePoint yn arwain at fathodyn digidol Met Caerdydd, gan eich galluogi i brofi a rhannu eich sgiliau.
Caiff y cyrsiau a'r ardystiadau eu darparu am ddim i fyfyrwyr a staff Met Caerdydd.
Darllenwch ymhellach i gael mwy o fanylion, neu ewch i'r wefan Hyfforddiant TG i gael y manylion llawn ac i gofrestru.
Bathodynnau Digidol ym Met Caerdydd
Mae rhaglen ardystio digidol Met Caerdydd yn darparu cydnabyddiaeth a thystiolaeth o sgiliau a chyflawniadau drwy fathodynnau digidol diogel y gellir eu dilysu.
Gellir rhannu'r bathodynnau ar LinkedIn, CVs digidol a rhwydweithiau cymdeithasol; maent yn rhoi tystiolaeth gadarn i gyflogwyr o'r hyn roedd angen i chi ei wneud er mwyn ennill eich ardystiad a'r hyn y gallwch ei gyflawni nawr.
Mae Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant TG sy'n rhoi tystiolaeth o sgiliau drwy fathodynnau digidol Met Caerdydd.
Cydweithio gan ddefnyddio Microsoft Teams ac Office 365
Dysgwch sut i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm digidol a defnyddio'r adnoddau cyfathrebu a chydweithio ym Microsoft Teams ac Office 365 yn llawn.
Paratoi Delweddau gan ddefnyddio Photoshop – Sylfaen a Chanolradd
Dysgwch sut i ddefnyddio Photoshop i baratoi delweddau, p'un a ydynt ar gyfer cyflwyniadau, dogfennau neu i gael eu cyhoeddi ar y we, bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i sicrhau bod eich delweddau'n edrych yn wych.
Bydd y cwrs Sylfaen yn cwmpasu'r hanfodion – sut i newid maint, tocio ac addasu'ch delweddau ac atgyffwrdd â nhw, a sut i greu delweddau newydd gan ddefnyddio adnoddau dewis a haenau.
Mae'r cwrs Canolradd yn adeiladu ar y cwrs sylfaen gan gyflwyno adnoddau a thechnegau newydd er mwyn gwella delweddau, megis dulliau haenau, masgiau a haenau addasu.
Llunio Arolygon Effeithiol gan ddefnyddio Qualtrics
Dysgwch hanfodion methodoleg llunio arolygon da a'r sgiliau technegol sydd eu hangen er mwyn creu arolygon effeithiol gan ddefnyddio meddalwedd Qualtrics.
Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Digidol Facebook
Nod gweithdai sgiliau digidol Facebook yw gwella sgiliau pobl drwy ddatblygu'r sgiliau digidol a'r sgiliau cyflogadwyedd y mae eu hangen arnynt er mwyn hybu eu rhagolygon gyrfa. Mae'r gweithdai yn ddiddorol iawn, yn ymarferol, ac yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, wedi'u harwain gan hyfforddwyr digidol arbenigol o un o bartneriaid Facebook, sef BuzzStart Academy.
Byddwch yn gwella'ch hyder a'ch sgiliau digidol drwy gwblhau gweithdy'n llwyddiannus, a bydd gennych dystiolaeth o hynny ar ffurf tystysgrif a roddir gan Facebook.
Mae pob gweithdy yn parhau am 3.5 awr ac yn cynnwys dau fodiwl.
Gweithdy 1 – Presenoldeb ar y We a Gweithio gyda Data
Yn y modiwl Presenoldeb ar y We, byddwch yn dysgu sut mae'r we yn gweithio a sut i adeiladu'ch gwefan eich hun. Bydd y modiwl Gweithio gyda Data yn eich helpu i ddysgu sut i wneud penderfyniadau mwy effeithiol ar sail data.
Gweithdy 2 – Arloesedd a'r Cyfryngau Cymdeithasol
Modiwl Arloesedd - Cyfle i ddychmygu, synio, creu ffrâm wifren, creu prototeip, adeiladu ap a chynnig datrysiad busnes hollgynhwysol o fewn 60 munud. *Credwch*.
Modiwl y Cyfryngau Cymdeithasol – Byddwch yn dysgu sut i ddiffinio'ch cynulleidfa gan ddefnyddio Audience Insights Facebook, yn cynllunio eich ymgyrch, yn creu cynnwys hysbyseb yn unol â briff, yn datblygu ymgyrch hysbysebu Facebook gan ddefnyddio Ads Manager. *Cyflawnwch*
Gweithdy 3 – Deallusrwydd Artiffisial (DA) a Seiberddiogelwch
Mae'r modiwl DA yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol deallusrwydd artiffisial a manylion sylfaenol ynghylch sut mae DA yn gweithio. Mae'r modiwl Seiberddiogelwch yn eich helpu i ddeall y peryglon sy'n gysylltiedig â'r we a sut i ddiogelu eich hun ar-lein.
Cyrsiau hyfforddi ac ardystiad Microsoft
Lansiwyd ein cyrsiau Microsoft yn gynnar ym mis Medi, ond o ganlyniad i'r galw mawr am leoedd rydym wedi cynyddu'r nifer o sesiynau cychwynnol a lleoedd sydd ar gael.
Mae'r cyrsiau'n arwain at ardystiad Microsoft Office Specialist (MOS) neu Microsoft Technology Associate (MTA); sef ffordd a gydnabyddir yn fyd-eang o ddangos arbenigedd yn y sgiliau digidol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
|