There are a plethora of opportunities to develop your digital skills over the summer, from full Microsoft Office Specialist courses and qualifications, to nibble-sized Daily Digital webinars.
Digital Skills </> |
Digital skills development for summer 2021
There are a plethora of opportunities to develop your digital skills over the summer, from full Microsoft Office Specialist courses and qualifications, to nibble-sized Daily Digital webinars.
Our Office, web design and technical courses will run as flexible learning courses over the summer period, giving you the chance to learn at your pace.
- Microsoft Office Specialist courses develop skills in the principle features of Office applications: Excel, Word, PowerPoint and Outlook and lead to Microsoft Office Specialist qualifications.
- Advanced Microsoft Office Specialist courses are for those looking to develop and certify expert-level skills in Excel, Word or Access.
- MTA Web Design Fundamentals will enable you to create, maintain and style web pages using HTML and CSS. Successful completion of the course results in a Microsoft Technology Associate certification.
- Microsoft Technology Associate courses develop technical skills and lead to Microsoft Technology Associate qualifications. Courses available include programming with Javascript, Python or Java, app development, security, databases and more.
The conclusion of these courses is an exam that can be sat in June, July or September. Passing the exam will result in a Microsoft qualification and digital badge that provides evidence of your skills that you can share through LinkedIn and social media.
Taught courses for the summer period include comprehensive Teams training and a document management course:
Successful completion of these courses (each comprised of three trainings sessions and an assessment) leads to a Cardiff Met digital badge certification.
The Daily Digital series of articles and micro-webinars returns, but won’t run every day over the summer period! The first four not-so-Daily Digital micro-webinars are now open for sign-up:
Visit the IT Training website for full details and to sign-up.
|
|
Sgiliau Digidol </> |
Datblygu sgiliau digidol ar gyfer haf 2021
Mae yna doreth o gyfleoedd i ddatblygu’ch sgiliau digidol ar hyd yr haf, o gyrsiau a chymwysterau Arbenigwr Microsoft Office llawn, i weminarau Digidol Dyddiol byrion.
Bydd ein cyrsiau Office, dylunio gwe a thechnegol yn rhedeg fel cyrsiau dysgu hyblyg ar hyd cyfnod yr haf, gan roi’r cyfle ichi ddysgu ar eich cyflymder eich hun.
- Mae cyrsiau Arbenigwr Microsoft Office yn datblygu sgiliau ym mhrif nodweddion cymwysiadau Office: Excel, Word, PowerPoint ac Outlook ac yn arwain at gymwysterau Arbenigwr Microsoft Office.
- Mae cyrsiau Arbenigwr Microsoft Office Uwch ar gyfer rheiny sy’n edrych i ddatblygu ac ardystio sgiliau lefel arbenigwr mewn Excel, Word neu Access.
- Bydd CTM Hanfodion Gwe Ddylunio yn eich galluogi chi i greu, cynnal a steilio tudalennau gwe gan ddefnyddio HTML a CSS. Bydd cyflawni’r cwrs yn llwyddiannus yn arwain at ardystiad Cydymaith Technoleg Microsoft.
- Mae cyrsiau Cydymaith Technoleg Microsoft yn datblygu sgiliau technegol ac yn arwain at gymwysterau Cydymaith Technoleg Microsoft. Ymysg y cyrsiau sydd ar gael y mae rhaglennu gyda Javascript, Python neu Java, datblygu apiau, diogelwch, cronfeydd data a mwy.
Terfyn y cyrsiau hyn yw arholiad y gellir ei eistedd ym mis Mehefin, Gorffennaf neu Fedi. Bydd llwyddo yn yr arholiad yn arwain at gymhwyster Microsoft a bathodyn digidol sy’n rhoi tystiolaeth o’ch sgiliau y gallwch ei rannu trwy LinkedIn a chyfryngau cymdeithasol.
Mae cyrsiau a addysgir ar gyfer cyfnod yr haf yn cynnwys hyfforddiant Teams cynhwysfawr a chwrs rheoli dogfennau:
Bydd cwblhau’r cyrsiau hyn yn llwyddiannus (pob un yn cynnwys tair sesiwn hyfforddi ac asesiad) yn arwain at ardystiad bathodyn digidol Met Caerdydd.
Mae’r gyfres o erthyglau a micro-weminarau Digidol Dyddiol yn dychwelyd, ond ni fydd yn rhedeg bob dydd ar hyd cyfnod yr haf! Mae’r pedwar cyntaf o’r micro-weminarau Digidol Dyddiol (bron) nawr ar agor ar gyfer cofrestru:
- Byrddau gwaith rhithiol – crëwch fannau gwaith rhithiol i drefnu eich ffenestri.
- Lleoli delweddau yn Word – cadwch ddelweddau ble rydych chi eisiau iddynt fod yn eich dogfen Word.
- Rhagor o awgrymiadau PowerPoint – rhagor o awgrymiadau hanfodol ar gyfer cyflawni cyflwyniadau effeithiol.
- Recordio macros – gwnewch weithrediadau’n awtomatig yn Excel a Word i arbed amser ac ymdrech.
Ewch i’r wefan Hyfforddiant TG ar gyfer y manylion llawn ac i gofrestru. |
|
View as a Web Page
Library and Information Services | Cardiff Metropolitan University
Llyfregell a Gwasanaethau Gwybodaeth | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
|
|