Sgiliau digidol ar gyfer eich astudiaethau, ymchwil a chyflogaeth
Mae’r peth mwyaf cyffrous am yr haf hwn yn amlwg ... y cyfle i ddatblygu'r sgiliau digidol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau, ymchwil a chyflogaeth! Mae llawer o'n cyrsiau'n arwain at gymwysterau a bathodynnau ardystiad digidol, sy’n darparu tystiolaeth o'ch sgiliau digidol i gyflogwyr a chyfoedion.
Mae ein cyrsiau a'n cymwysterau Microsoft Office Specialist (MOS) - Excel, Word, PowerPoint ac Outlook - yn parhau i fod ar agor ar gyfer cofrestru ar sail Sefydlu Unrhyw Amser. Ar gyfer cymwysterau lefel arbenigol, mae un sesiwn sefydlu arall ar gyfer y cyrsiau MOS Uwch. Mae'r cyrsiau'n arwain at ardystiad Microsoft Office Specialist y gallwch chi ei rannu'n hawdd trwy'r cyfryngau cymdeithasol a LinkedIn.
Mae Hanfodion Dylunio Gwe MTA a chyrsiau hyfforddiant technegol ac ardystiad - Microsoft Technology Associate ar agor i'r rheini sy'n edrych i ddatblygu a phrofi sgiliau technegol: HTML / CSS, JavaScript, Python, cronfeydd data, diogelwch a mwy.
Mae Microsoft yn cynnig hyfforddiant ac ardystiad Hanfodion Microsoft mewn Hanfodion Data, Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Hanfodion Azure. Mae rhagor o fanylion a dolenni cofrestru ar y daflen hon.
Mae'r cwrs Cydweithio â Microsoft Teams ag Office 365 yn dychwelyd ym mis Mehefin. Bydd y cwrs yn darparu sgiliau i chi - a phrawf o'r sgiliau hynny trwy ar ffurf fathodyn digidol Met Caerdydd - bydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'r platfform cyfathrebu hollbresennol yma.
Yn yr un modd, nid yw'n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer y cwrs Rheoli Dogfennau gyda OneDrive a SharePoint a fydd yn eich helpu i storio, rheoli a chydweithio ar ddogfennau yn effeithiol.
Mae micro-weminarau Digidol Dyddiol yn parhau gyda mwy o awgrymiadau a chynghorion cryno:
Mae’r gyfres Offer ar gyfer Addysgu newydd yn archwilio'r feddalwedd, y sgiliau a'r arferion a all wella'r profiad dysgu i fyfyrwyr. Mae'r gyfres wedi'i hanelu at staff sy'n addysgu ond gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i staff a myfyrwyr gwasanaethau proffesiynol. Mae'r sesiynau'n ymwneud â chreu cwisiau ar-lein, defnyddio Sway ar gyfer cyflwyniadau ar-lein a gweithio gyda fideo ym Met Caerdydd.
Cyfres newydd arall o hyfforddiant yw Symleiddio Prosesau Busnes. Mae wedi'i hanelu'n bennaf at staff, ond mae croeso i fyfyrwyr hefyd. Mae'r ffocws ar offer - Microsoft Lists, Power Automate a SharePoint - a dulliau a all wneud prosesau'n fwy effeithlon.
Ewch i wefan Hyfforddiant TG i gael manylion llawn ac i gofrestru. |