The Autumn Term programme of digital skills training continues with courses on building websites with WordPress, designing effective infographics, two levels of Photoshop training, expert-level Office courses and programming and technical training courses.
Digital Skills </> |
Advanced digital skills courses and certification
The Autumn Term programme of digital skills training continues with courses on building websites with WordPress, designing effective infographics, two levels of Photoshop training, expert-level Office courses and programming and technical training courses.
All our courses lead to digital certifications: evidence of advanced digital capabilities that employers and peers can readily see through LinkedIn and social media. |
|
Building a Website with WordPress
The Building a Website with WordPress course is for anyone who wants to create their own website, perhaps for your small business, or a blog, or to showcase an idea or just showcase yourself and your work. The course explores how to use WordPress - one of the most popular services for hosting and designing web content – to register, create and publish a website.
|
|
|
|
Effective Infographics
Infographics can be a very effective way of presenting and sharing data and ideas, but in order to be so they need to be well designed. The Effective Infographics course explores the design principles behind effective infographics and how to create them using Adobe Creative Cloud Express.
|
|
|
Advanced Microsoft Office Specialist training and certification
Advanced Microsoft Office Specialist (MOS) training courses lead to expert-level Microsoft qualifications for Excel, Word and Access.
Learn how to create and manage databases with MOS Access Expert, create professional documents with MOS Word Expert and analyse and present data with MOS Excel Expert.
Not completed the Specialist level Office courses yet? Enrolment through Anytime Induction is still available but only until this Friday 21st October.
|
Information Technology Specialist – technical training and qualifications
The Information Technology Specialist courses and qualifications develop technical skills in a range of topics, including programming with Javascript, Python or Java; database theory and practice; app development; software development; security and networking.
Thinking Like a Programmer complements the Information Technology Specialist courses. The series explores programming concepts such as conditional statements and loops through worked examples and exercises.
|
 |
Preparing Images with Photoshop
The Preparing Images with Photoshop Foundation course will teach you how to use Photoshop to prepare and enhance images, whether they are for presentations, documents or publishing them to the web, this course will help you get your images looking great.
|
|
 |
Online Survey Design with Qualtrics
Qualtrics is Cardiff Met's survey software that any student or member of staff can use to create, distribute and analyse surveys. Learn the basic principles of good survey methodology and the technical skills required to create effective surveys with the Designing Effective Surveys with Qualtrics course.
|
|
|
Daily Digital micro-webinars
At the other end of the scale from our full courses are the Daily Digital micro-webinars: 15-minute sessions that demonstrate a tool or technique with time for questions and elaboration. Here’s the schedule for the rest of the term:
|
Key Concept sessions – Office and web design
Our Microsoft Office Specialist and web design courses include Key Concept sessions that explore some of the more interesting and useful tools and techniques through live training sessions. These sessions are open to anyone, regardless of whether you are enrolled on the course. The sessions for the remainder of the term are:
- Excel Expert: Conditional Functions; PivotTables
- Word Expert: Customising Styles and Mail Merge
- Excel: Absolute References and Text Functions; Sorting and Filtering; IF Function; Charts
- Word: Structuring your documents; References; Graphics
- PowerPoint: Designing Effective Slides; Purposeful Animation, SmartArt and 3D Models
- Outlook: Managing Email Efficiently; Schedules, Tasks and Contacts
- Web Design: Hyperlinks and Page Structure; Multimedia; Semantic Elements; Forms; Putting the cascading into CSS; Positioning content with CSS; More CSS selectors; Responsive design
|
|
Sgiliau Digidol </> |
Cyrsiau ac ardystiadau sgiliau digidol uwch
Mae rhaglen Tymor yr Hydref o hyfforddiant sgiliau digidol yn parhau gyda chyrsiau ar greu gwefannau gyda WordPress, dylunio ffeithluniau effeithiol, dau lefel o hyfforddiant Photoshop, cyrsiau Office lefel arbenigwr a chyrsiau hyfforddiant rhaglennu a thechnegol.
Mae pob un o’n cyrsiau’n arwain at ardystiadau digidol: tystiolaeth o alluoedd digidol uwch y gall cyflogwyr a chyfoedion eu gweld yn hawdd drwy LinkedIn a’r cyfryngau cymdeithasol. |
|
Creu Gwefan gyda WordPress
Mae’r cwrs Creu Gwefan gyda WordPress newydd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau creu eu gwefan eu hunain, efallai ar gyfer eich busnes bach, neu flog, neu i arddangos syniad neu ddim ond i arddangos eich hunan a’ch gwaith. Mae’r cwrs yn archwilio sut i ddefnyddio WordPress – un o’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd ar gyfer llywyddu a dylunio cynnwys gwe – i gofrestru, creu a chyhoeddi gwefan.
|
|
|
|
Ffeithluniau Effeithiol
Gall ffeithluniau fod yn ffordd effeithiol iawn o gyflwyno a rhannu data a syniadau, ond er mwyn iddynt fod felly, mae angen eu dylunio’n dda. Mae’r cwrs Ffeithluniau Effeithiol yn archwilio’r egwyddorion dylunio sydd wrth wraidd ffeithluniau effeithiol a sut i’w creu gan ddefnyddio Adobe Spark.
|
|
|
Hyfforddiant ac ardystiad Microsoft Office Specialist
Mae cyrsiau hyfforddi Microsoft Office Specialist (MOS) Uwch yn arwain at gymwysterau Microsoft ar lefel arbenigwr ar gyfer Excel, Word ac Access.
Dysgwch sut i greu a rheoli cronfeydd data gyda MOS Access Expert, creu dogfennau proffesiynol gyda MOS Word Expert a dadansoddi a chyflwyno data gyda MOS Excel Expert.
Heb gwblhau cyrsiau lefel Arbenigol Office eto? Mae cofrestru trwy Sesiwn Sefydlu Unrhyw Bryd yn dal ar gael ond dim ond hyd at ddydd Gwener 21 Hydref.
|
Arbenigwr Technoleg Gwybodaeth – hyfforddiant a chymwysterau technegol
Mae’r cyrsiau a chymwysterau Arbenigwr Technoleg Gwybodaeth yn datblygu sgiliau technegol mewn amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys rhaglennu gyda Javascript, Python neu Java; datblygu meddalwedd ac apiau, theori ac ymarfer cronfeydd data a rhwydweithio.
Cyfres yw Meddwl Fel Rhaglennydd sy'n edrych ar sut i greu atebion gan ddefnyddio cysyniadau rhaglennu a phrosesau meddwl. Mae'r gyfres yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu systemau heb god, fel llifoedd Power Automate, dysgwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs rhaglennu Arbenigwr Technoleg Gwybodaeth neu unrhyw un sydd am ddysgu ychydig am raglennu.
|
 |
Paratoi Delweddau gyda Photoshop
Bydd y cyrsiau Paratoi Delweddau gyda Photoshop yn eich dysgu sut i ddefnyddio Photoshop i fireinio delweddau. P’un a ydynt ar gyfer cyflwyniadau, dogfennau neu i’w cyhoeddi ar y we, bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu chi i sicrhau bod eich delweddau’n edrych yn wych.
|
|
 |
Dylunio Arolygon Ar-lein gyda Qualtrics
Meddalwedd arolygon Met Caerdydd yw Qualtrics y gall unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff ei defnyddio i greu, lledaenu a dadansoddi arolygon. Dysgwch am egwyddorion sylfaenol methodoleg arolygon da a’r sgiliau technegol sydd eu hangen i greu arolygon effeithiol gyda’r cwrs Dylunio Arolygon Effeithiol gyda Qualtrics.
|
|
|
Micro-weminarau Digidol Dyddiol
Ar y pegwn arall i’n cyrsiau llawn y mae’r micro-weminarau Digidol Dyddiol: sesiynau 15 munud o hyd sy’n arddangos offeryn neu dechneg gydag amser ar gyfer cwestiynau ac i ymhelaethu. Dyma’r amserlen ar gyfer gweddill y tymor:
|
Sesiynau Cysyniad Allweddol – Office a gwe-ddylunio
Mae ein cyrsiau Microsoft Office Specialist a gwe-ddylunio’n cynnwys sesiynau Cysyniad Allweddol sy’n archwilio rhai o’r offer a thechnegau mwy diddorol a defnyddiol trwy sesiynau hyfforddi byw. Mae’r sesiynau hyn yn agored i bawb, ni waeth a ydych wedi cofrestru ar y cwrs. Y sesiynau ar gyfer gweddill y tymor yw:
- Excel Expert: Swyddogaethau Amodol; Tablau Pifod
- Word Expert: Addasu Arddulliau a Phostgyfuno
- Excel: Cyfeirnodau Absoliwt a Swyddogaethau Testun; Didoli a Hidlo; Swyddogaeth IF; Siartiau
- Word: Strwythuro eich dogfennau; Cyfeirnodau; Graffeg
- PowerPoint: Dylunio Sleidiau Effeithiol; Animeiddio, SmartArt a Modelau 3D Pwrpasol
- Outlook: Rheoli E-byst yn Effeithlon; Amserlenni, Tasgau a Chysylltiadau
- Gwe-ddylunio: Hyperddolenni a Strwythur Tudalennau; Amlgyfrwng; Elfennau Semantig; Ffurflenni; Gosod rhaeadru yn CSS; Lleoli cynnwys gyda CSS; Rhagor o ddetholwyr CSS ;Dylunio ymatebol
|
|
View as a Web Page
Library and Information Services | Cardiff Metropolitan University
Llyfregell a Gwasanaethau Gwybodaeth | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
|
|